crwydro yn Filltiroedd
Mae Canolbarth Cymru yn le delfrydol ar gyfer cerddwyr. Mae’r golygfeydd godidog ym mhob man yn eich denu i geisio gweld mwy. Cerdded yw’r ffordd orau o wneud hyn.
Nid yw llwybrau cerdded yn brin iawn. Mae gennym 2 o 15 Llwybr Cenedlaethol Prydain.
Mae un ohonyn nhw, Llwybr Clawdd Offa, yn troelli drwy Ganolbarth Cymru, ac yn rhan o daith 177 milltir. Cafodd y daith ei gwobrwyo fel un o deithiau cerdded wal gorau’r byd gan Lonely Planet – ynghyd â Wal Berlin, Wal Hadrian a Wal Fawr China.
Mae’r llwybr arall, Llwybr Glyndŵr yn gyfan gwbl yng Nghymru. Mewn siâp pedol, mae’n troelli o un ochr o Gymru i’r llall ac mae’n cysylltu’r Trallwng, Machynlleth a Threfyclo (yr unig dref yng Nghymru wedi’i lleoli ar ddau lwybr Cenedlaethol).
Mae gennym dri llwybr gwych drwy ddyffrynnoedd hefyd – Llwybr Dyffryn Gwy, Llwybr Hafren a Llwybr Taf – yn ogystal â llwybr ar draws Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i gyd.
Mae gennym lwybrau byd natur, llwybrau trefi a llwybrau hamddenol ger camlesi. Llwybrau hanesyddol sy’n gysylltiedig â beirdd, emynwyr, porthmyn a seintiau. Mae llwybrau gwastad hefyd sy’n addas ar gyfer bygis a chadeiriau olwyn.
Rydym hefyd ar Lwybr Arfordir Cymru, sy’n ymestyn dros 870 milltir. Dim yn ddrwg i ardal heb arfordir, ond eto i gyd mae’n werth teithio ychydig ymhellach i ymweld â Machynlleth.
Efallai nad ydych yn gwybod ble i ddechrau? Peidiwch â phoeni, gallwch lawrlwytho’r app Trails Mid Wales, - arweinlyfr gyda manylion llwybrau, posau rhyngweithiol, golygfeydd 360º, jig-sos a darluniau o’r ardal i’ch
