
atyniadau
Dyn ni ddim yn hoffi rhoi gormod o gyngor yma yng Nghanolbarth Cymru. Mae'n well gennym ni i bobl wneud beth maen nhw am ei wneud eu hunain. Wrth wneud hynny byddan nhw bob amser yn dod o hyd i rywbeth od neu rywbeth i beri syndod. Yr oen gyda dau ben yn Amgueddfa Llanidloes, er enghraifft, neu Goeden Unig Llanfyllin.
Ond mae yna rai pethau y mae'n rhaid i chi eu gwneud pan fyddwch chi yma. Ac mae’n rhaid i ni ddweud wrthych chi amdanyn nhw. Oherwydd byddai’n ddrwg iawn gennym pe baech yn colli cyfle i’w gweld.
Felly beth bynnag a wnewch, gofalwch eich bod chi'n mynd i weld ystafelloedd a gerddi Baróc ysblennydd Castell Powys ger Y Trallwng. Ewch i weld y rhyfeddod naturiol mwyaf ym Mhrydain yng Nghanolfan Ogofâu Arddangos Cenedlaethol Cymru Dan-yr-Ogof, sydd wedi cymryd 315 miliwn o flynyddoedd i’w ffurfio. Dilynwch gychwr yn ei gwfl i mewn i Labyrinth y Brenin Arthur a Mark Waite, yr ogofeuwr arbennig, sydd ychydig yn llai brawychus, yn y ‘Corris Mine Explorers’ ger Machynlleth.
Gwyliwch hyd at 600 o'n hadar ysglyfaethus mwyaf eiconig yn hawlio eu byrbryd prynhawn yng Nghanolfan Fwydo’r Barcud Coch ger Rhaeadr Gwy. Helpwch ni i achub y blaned - a theithio ar un o reilffyrdd clogwyn mwyaf serth y byd - yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen ger Machynlleth.
Ac ar ôl hynny i gyd, cewch dreulio’ch amser fel y mynnwch.