

Danteithion blasus
Bwyd a Diod ym Mhowys
Mae’n swyddogol - mae Cymru yn un o dri chyrchfan gorau yn y byd i flasu bwyd. Yma yng nghalon Cymru, mae aer clir y mynyddoedd, nentydd glân, gloyw a chefn gwlad ffrwythlon yn cynhyrchu bwyd o’r safon gorau.
Mae gan fwyd y Canolbarth ôl troed mwdlyd yn hytrach nag ôl troed carbon. Mae’r ffrwythau a llysiau sydd ar werth yn y marchnadoedd ffermwyr mor ffres nes bod gwlith y bore’n dal arnyn nhw. Gallwch flasu’r perlysiau yn ein cig oen Cymreig.
Dyna pam mae ein cogyddion, hyd yn oed y rhai gyda sêr Michelin, yn hoffi cadw pethau’n syml. Maen nhw’n gadael i’r bwyd ddweud y cyfan. Ac mae angen i ni gyd gynnig llwnc testun i hynny, gan fod y cwrw, seidr, gwin a’r wisgi yn lleol hefyd.
​
Marchnadoedd Ffermwyr
Dyw bwyd da fyth yn brin yng Nghanolbarth Cymru, rhan o'r byd sy'n ymfalchïo mewn bod yn ffynhonnell peth o'r cynnyrch gorau yng Nghymru. Cliciwch isod i weld rhestr o farchnadoedd ffermwyr ym Mhowys cliciwch yma
​
Blas Cambrian Taste
Mae Blas Cambrian Taste yn fenter sy'n hyrwyddo busnesau bwyd a diod lleol ar hyd The Cambrian Way o Gaerdydd i Landudno. Fe'i rhennir yn bedwar prif faes ac mae'n cynnwys lleoedd i brynu a phrofiad o fwyd a diod lleol gan gynnwys siopau, delis, cynhyrchwyr, marchnadoedd, gwyliau bwyd, caffis, tafarndai, bwytai a phrofiadau bwyd a diod.
I lawrlwytho map Blas Cambrian Taste cliciwch yma