
Bywyd Gwyllt Godidog
Wildlife in Powys
Croeso i rywle sydd mor llawn o fywyd gwyllt fel bod rhyw fath o gyfarfyddiad hudolus bron yn sicr...
...A pheidiwch a phoeni, byddwn yn eich rhoi ar ben ffordd. Gallwn fynd a chi i wylio moch daear (neu'r pry llwyd), hela pryfed, chwilio am ystlumod a'ch dysgy sut i dracio anifeilliaid gwyllt.
Gwnawn eich helpu i ddarganfod mannau lledrithiol fel Cwm Elan - 70 milltir sgwar o afonydd, cronfeydd dwr a choedwigoedd hynafol yn cynnwys 12 gwahanol Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Neu warchodfa natur 24,000 acer y RSPB yn Llyn Efyrnwy, un o gadarnleoedd yr hebog tramor.
Gallwch weld ein hadern ysglyfaethus mwyaf eiconig, yn ei gynefin yn yr awyr, bron bob dydd yng Ngorsaf Fwydo'r Barcud Coch ar Fferm Gigrin get y Rhaeadr.
A hefyd, rhwng mis Ebrill ac Awst gallwch gwrdd a Monty'r Gwalch a'i ffrindiau. Bydd Prosiect Gweilch y Ddyfi ger Machynlleth yn rhoi telesgop, sbienddrych a lluniau byw ar y teledu i chi.
Mae gan y prosiect bellach un o'r llwyfannau gwylio diweddaraf lle gallwch weld, clywed a phrofi bywyd gwyllt mewn ffordd gwbl wahanol. Dilynwch y llwybr pren i'r arsyllfa a mwynhau'r golygfeydd 360 panoramig.