top of page

Mynd a ch anifail anwes am dro

Llety Cyfeillgar i Anifeiliaid Anwes ym Mhowys

Os ydych chi'n cynllunio taith i Ganolbarth Cymru ond yn ansicr beth i'w wneud gyda'ch cydymaith pedair coes ffyddlon, yna beth am ddod â nhw gyda chi.

 

Nid dim ond cŵn a cheffylau rydym ni yn ei olygu...
Rydym yn awgrymu eich bod yn cael gair gyda'ch darparwr llety cyn i chi neidio i’r car, i wneud yn siŵr eich bod yn cael dod â Sid y neidr, ond gwyddom mewn o leiaf un o'n meysydd carafanau nad yw’n anghyffredin gweld "Warren", cwningen anwes, yn mynd allan am dro yn y bore gyda'i lîd yn fflachio yn yr haul.
Mae yna gae lle mae dyn yn dod â'i adar ysglyfaethus i ymarfer ac ysgwyd eu hadenydd, ac mae un neu ddwy gath ddinesig sydd wedi pacio eu bowlenni ac anelu am gefn gwlad ar benwythnos o wyliau.

 

Mae gennym ddewis o lety sy'n aros i agor eu drysau (ac mewn rhai achosion eu stablau) i chi.
Mwy o deithiau cerdded nag y gallwch chi daflu ffon atyn nhw a rhai o'r llwybrau ceffyl gorau y byddwch chi erioed wedi carlamu ar eu hyd.

 

 

Os nad yw Pero yn dal wedi’i argyhoeddi bod y goleuadau llachar yn awyr nos y Canolbarth yn mynd i’w blesio ... wel peidiwch â chymryd ein gair  ...

trïwch chwarae Mid Wales Maddie's Way, iddo ac efallai y gallai hi ei argyhoeddi.

 

 

Mwynhewch wyliau bach gyda ni a'ch ffrind blewog.
Edrychwn ymlaen at ddarganfod beth mae #MidWalesMyWay yn ei olygu i'r ddau ohonoch chi.

Llety lle mae croeso i Anifeiliaid Anwes

bottom of page