top of page

Esgidiau glad mwdlyd

​

Diwrnodau Glawog ym Mhowys

 

Tywydd gwlyb Cymru, rydyn ni'n enwog amdano ... A hynny efallai ychydig yn annheg, dyw hi ddim yn bwrw glaw bob amser yma, rydyn ni hefyd yn cael haul gogoneddus, gwyntoedd cryfion ac eira ffres i grensian dan draed.

 

Efallai ein bod wedi cael yr enw hwn oherwydd pan fydd hi'n bwrw glaw, mae'n bwrw glaw yn iawn, gan ein gwlychu at yr asgwrn, gyda’r weiperi yn gorfod cael eu troi arnodd i’r pen, glaw sy’n gwneud i’ch gwallt ddiferu.

Y "Tywydd Cymreig" hwn yw'r rheswm pam fod ein cymoedd a'n mynyddoedd mor wyrdd, pam fod ein llynnoedd mor ddwfn a dirgel a pham fod Canolbarth Cymru yn un o'r llefydd gorau i gymryd rhan mewn chwaraeon dŵr yn y DU.

 

Felly, gadewch i ni feddwl, beth mewn gwirionedd yw’r senario gwaethaf ...

 

Rydych chi yma ar wyliau, rydych chi wedi cael haul gogoneddus ac yn sydyn ar y trydydd diwrnod mae'r cymylau'n crynhoi a'r nefoedd yn agor ... mae yna ddigon o bethau i'w gwneud o hyd, canolfannau gweithgareddau dan do, amgueddfeydd, caffis, llefydd i fynd â'r plant, llefydd i fynd heb blant ... neu'r dewis arall ... byddwch yn gwlychu rhywfaint ac yn gwneud y gorau o sblashio mewn pyllau.

 

Fydd ambell gawod ddim yn gwneud llawer o wahaniaeth os ydych chi ar eich beic mynydd neu’n mynd i rafftio dŵr gwyn. Ond fel arall mae yna ddigon o lefydd diddorol i'ch cadw'n brysur am awr neu ddwy tra byddwch chi'n aros i'r haul ddod allan eto. Llefydd mor ddiddorol, mewn gwirionedd, fel mae'n drueni eu cadw ar gyfer diwrnodau glawog. Mae Llety'r Barnwr yn Llanandras yn werth taith hyd yn oed os yw'r glaw yn pistyllio’r tu allan. Fe wyddoch chi eich bod chi yn "un o amgueddfeydd bach mwyaf deniadol y byd" o'r funud y cerddwch i mewn drwy'r drws ffrynt ac arogli'r lampau paraffin. Mae'r Neuadd yn Abaty-Cwm-Hir yn gapsiwl amser Fictoraidd arall - 52 o ystafelloedd gyda llefydd tân marmor, nenfydau Rococo a chymaint o baraffernalia fel, yng ngeiriau'r awdur Simon Jenkins, "it explodes into rampant kitsch". Fe ddylai e weld Amgueddfa Cerflunio Andrew Logan yn Aberriw. Dyma'r unig amgueddfa yn Ewrop sydd wedi ei chyflwyno i artist byw. Ac ymhlith llawer o weithiau eraill o ddirywiad, afiaith a gormodedd, mae'n cynnwys cerflun o'r enw yr Wy Cosmig.

 

Ni allwn addo haul, a wnawn ni ddim addo glaw ... ond rydyn ni'n addo y byddwch yn canfod digon i’ch diddanu  beth bynnag yw'r tywydd.

​​

bottom of page