top of page

Dyfroedd Hudolus

Ffyrdd Dŵr ym Mhowys

 

Fel y gwyddoch, mae’n dueddol o fwrw glaw o bryd i’w gilydd yng Nghanolbarth Cymru. Dyna sydd yn gwneud ein glaswellt gwyrdd mor arbennig o wyrdd.

 

Mae hefyd yn golygu nad ydych chi byth yn bell iawn o ddŵr. Mae dros 300 o afonydd, nentydd a rhaeadrau yn llifo i mewn i Lyn Efyrnwy yn unig. Mae afonydd Gwy a Hafren yn tarddu yn uchel ym mynyddoedd Pumlumon uwchben Rhaeadr Gwy. Mae tarddiad Afon Wysg ar lethrau gogleddol y Mynydd Du.

 

Mae hyn oll yn egluro pam mae’r mwyafrif o’n trefi marchnad wedi eu lleoli ger dŵr - does dim digon i’w gael!

 

Dydy cael y llyn naturiol mwyaf yn Ne Cymru yn Llan-gors ddim yn ddigon - dyna pam y crëwyd cronfeydd trawiadol yn nyffrynnoedd Efyrnwy, Elan a Chlaerwen.

 

I ychwanegu at hynny, adeiladwyd ychydig o gamlesi - Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu a Chamlas Trefaldwyn - oedd unwaith yn brysur iawn yn yr Oes Ddiwydiannol. Nawr, maen nhw’n berffaith ar gyfer ymlacio.

 

Gallwch hurio cwch i brofi’r bywyd araf, a chael cwmni’r dyfrgi a glas y dorlan a golygfa wahanol bob bore.

bottom of page