Ardal o Henebion

Hanes a Threftadaeth ym Mhowys

 

Nid dim ond pethau a ddigwyddodd oesau'n ol yw hanes Canolbarth Cymru. Nid dyddiadau ac olion hynafol, ond pethau sy'n digwydd heddiw hefyd.

Dylech wneud mwy na darllen am ein hynafiaid mewn llyfrau. Dewch i weld yr hyn a welsant, cyffwrdd yr hyn a gyffyrddasant, cerdded milltir yn eu hesgidiau. Neu yn achos Llwybr Clawdd Offa, i gerdded 177 milltir. Dewch am dro ar un o'n trenau stem, i lawr un o'n camlesi, ar hyd ein tramffyrdd ac i lawr llwybrau'r porthmyn. I ymweld a gerddi pleser ein trefi sba Fictorianaidd, i ryfeddu at yr argae anferthol yng Nghwm Elan ac Efyrnwy a'r tirluniau a grewyd ganddynt.

A phan fo'n fater o amgueddfeydd, nid ydyn ni'n rhy hoff o'r syniad o "edrych ond paid cyffwrdd" yma yng Nghanolbarth Cymru. Mae ein hamgueddfeydd ni'n dra gwahanol! Y rheswm yw oherwydd eu bod wedi eu cysegru i arwyr lleol - fel Amgueddfa Goffa Robert Owen yn y Drenewydd. Maen nhw'n adlewyrchu angydffurfiaeth y bobl hyn.

Ac Weden ein cestyll.... sefydlwyd rhai ohonynt fel caerau canoloesol moel cyn dod yn gartrefi moethus lle gallai'r cyfoethog a'r pwerus arddangos eu cariad at bensaern aeth, garddio a'r celfyddydau. Daeth y Rhufeiniaid, yr Eingl-Sacsoniaid a'r Normaniaid i'r ardal, hoffi'r hyn a welsant a chodi caerau i'w hawlio.

Mae hyn i gyd yn golygu bod castell i'w weld bron ym mhob man yn y Canolbarth, mae un i'w gael ym mhob tref bron. Er enghraifft, yr adfeilion atgofus a hiraethlon yn edrych i lawr ar Drefaldwyn neu'r "twmpath" gwyrdd ger yr afon yng Nghrughywel.