
Fy Lechyd i
lles ym mhowys
Mae gan antur ei le...ond weithiau mae rhywun eisiau cymryd pethau'n hamddenol ac yn y Canolbarth mae gennym bopeth i helpu eich enaid i gael llonydd.
​
Yn ogystal a mynyddoedd, llynnoedd a choedwigoedd, mae gan Ganolbarth Cymru fwy na 30 o barciau a gerddi - rhai'n grand, eraill yn fwy cartrefol - i roi gwledd i'r llygad a llonyddu'r enaid.
-
Ewch am dro hamddenol drwy erddi pleser Parc Gwledig Craig y Nos, cartref i'r soprano enwog Adelina Patti.
-
Ewch ar grwydr drwy erddi byd - enwog Castell Powis gyda'i goed yw anferthol sy'n rhoi cysgod i blanhigion prin ac eiddil, ac wedi eu trefnu yn arddull gerddi Ffrengig ac Eidalaidd. Mae'r cerfluniau cerrig gwreiddiol yn dal i fod yno. a hefyd ei Orendy.
-
Rhyfeddwch at erddi Plas Gregynog ger y Drenewydd sydd nid yn unig yn cyd-fynd yn berffaith a'r tirlun godidog ond yn ei greu. Mae'r cyfan yn ymestyn dros 750 acer ac yn cynnwys coetir hynafol, llyn o lil au, lawntiau suddedig a bwthyn cuddiedig.
​​