
Crwydro'r mynyddoedd
Marchogaeth Ceffylau ym Mhowys
Mae gennym olygfeydd eithaf trawiadol yng Nghanolbarth Cymru. A’r ffordd orau i werthfawrogi'r rhain yw ar gefn geffyl.
Mae’n ffordd wych i deithio ar hyd y rhan fwyaf o’n 2,000 milltir sgwâr er mwyn i chi gael gweld cymaint ag sy’n bosibl. Mae ein Cobiau Cymreig yn dyfalbarhau hyd yn oed pan mae’r beicwyr yn ysu am fynd i’r dafarn agosaf.
Mae nifer helaeth o’n llwybrau a’n llwybrau march yn rhyfeddol. Mae’r llwybr mwyaf, The Great Dragon Ride, yn mynd heibio’r canolbarth ar ei daith 293 o filltiroedd o’r Gogledd i Dde Cymru.
Mae Llwybr Epynt yn rhedeg mewn cylch anferth o amgylch 30,000 acer o weundir gwyllt, coedwigoedd a dolydd sy’n cwmpasu Mynydd Epynt.
Mae Llwybr Traws Cymru gan Ganolfan Farchogaeth Cwmfforest, Talgarth yn croesi Cymru o’r Dwyrain i’r Gorllewin, gan groesi ehangder Mynyddoedd Cambria a gorffen gyda charlam ar draeth ger Aberystwyth.
Byddwch yn siŵr o deimlo fel cowboi. Er, byddwch chi’n aros mewn tafarndai gwledig clyd ar hyd y ffordd. Fe’i nodwyd gan y Guardian yn un o’r 10 uchaf ar gyfer Gwyliau Marchogaeth o Amgylch y Byd.
Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n teimlo’n barod ar gyfer y math yma o antur. Bydd ein canolfannau marchogaeth yn darparu ar gyfer pob oedran a phob gallu – neu ddiffyg gallu. Byddan nhw yn eich arwain drwy’r coedwigoedd, i fyny i’r mynyddoedd neu drwy lwybrau tawel gosgeiddig i gyd o dan faner “Powys ar gefn ceffyl” (Powys on Horseback).
Ar ddiwedd y daith, gallwch ymlacio yn un o’n ffermdai neu wely a brecwast sy’n addas ar gyfer pobl sy’n marchogaeth. Gall eich ceffyl aros hefyd. A dweud y gwir, bydd y ceffyl angen gorffwys mwy na chi.